![]() | |
Math | cymuned, pentref ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 369 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 2,447.66 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 53.0167°N 3.2833°W ![]() |
Cod SYG | W04000144 ![]() |
Cod OS | SJ145472 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au | David Jones (Ceidwadwr) |
![]() | |
Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir Ddinbych yw Bryneglwys( ynganiad ). Saif i'r gogledd-orllewin o Langollen ac i'r gogledd-ddwyrain o Gorwen, ar briffordd yr A5104. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 344.
Mae'r gymuned yn cynnwys copa Mynydd Llandysilio, i'r de o'r pentref, a Phlas yn Iâl, cartref gwreiddiol teulu Yale. Ganed hynafiaid Elihu Yale yno, yr enwir Prifysgol Yale ar ei ôl.
Yn yr Oesoedd Canol roedd y plwyf yn rhan o gwmwd Iâl, yn nheyrnas Powys (Powys Fadog). Mae adeilad presennol eglwys y plwyf, sef Eglwys Tysilio Sant, yn dyddio o'r 15g ond mae'n debyg fod y safle yn hŷn.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Darren Millar (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw David Jones (Ceidwadwr).[1][2]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search